Am Ddim
Dyma bethau i chi eu lawrlwytho am ddim.
Mae amryw o'r rhain wedi eu datblygu gan ein rhaglennwyr wrth iddyn nhw ddysgu ac arbrofi gyda thechnegau newydd. Nid yw'r gweithgareddau hyn yn adlewyrchiad o safon ein cynnyrch masnachol, ac nid ydym yn cynnig cymorth os nad ydynt yn gweithio i chi. Rydym yn gobeithio eich bod yn eu mwynhau (mae'n anodd iawn tynnu eich hun oddi wrth rhai ohonynt, peidiwch â dechrau chwarae Swigod os yw amser yn brin!)
Gemau Buarth
Cyfarwyddiadau ar gyfer deg gêm fuarth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Lawrlwytho'n Gymraeg
Lawrlwytho'n Saesneg
Pong 3D
Symudwch y llygoden o'r dde i'r chwith i amddiffyn eich pen o'r bwrdd. Rhaid trio sgorio mwy o bwyntiau na'ch gwrthwynebydd. Gallwch sgorio trwy gael y bêl heibio i'ch gwrthwynebydd. Y cyntaf i gyrraedd 5 pwynt sydd yn ennill.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Swigod
Rhaid meddwl yn galed cyn mynd ati i fyrstio'r swigod. Gallwch fyrstio clwstwr o swigod o’r un lliw yn unig ac nid swigod unigol.
Y mwyaf o swigod sydd mewn clwstwr, mwya o bwyntiau gewch chi wrth eu byrstio. Rhaid ystyried hefyd sut fydd disgyrchiant yn effeithio’r swigod sy’n weddill.
Gallwch glicio unwaith ar y swigod i weld y sgôr posibl cyn clicio eto i’w byrstio.
Ceisiwch gael sgôr uwch na 120.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Canonau
Gêm i rhwng dau a phedwar chwaraewr.
Mae'n rhaid i chwaraewyr symud a saethu at eu gwrthwynebwyr fesul un.
Cliciwch ar ganon gan ddefnyddio'r linell i ddewis cyfeiriad a phwer. Byddwch yn ofalus nad ydych yn camdanio.
Defnyddiwch y saethau i symud os nad yw'n rhy serth. Os yw'r tirwedd yn rhy serth efallai bydd y canon yn disgyn a'r chwaraewr yn colli ei dro.
Mae'r canon sydd yn goroesi yn curo!
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Llythrennau Magned
Llusgwch y llythrennau o amgylch y sgrîn!
I gael llythyren newydd, llusgwch y lythyren oddi ar waelod neu ochr dde’r sgrîn.
I gael gwared â llythyren, llusgwch hi dros ochr y sgrîn.
I glirio’r holl sgrîn, cliciwch ar y bin sbwriel.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Disgyrchiant
Nod y gêm yw lansio'r roced a chyrraedd y Ddaear yn ddiogel. Mae'n bosibl i chi ddewis cyflymder a chyfeiriad y roced i ddechrau, ond yna bydd rhaid i chi ddefnyddio disgyrchiant y planedau eraill i'ch tynnu a'ch gwthio o amgylch y rhwystrau sydd o'ch blaen.
I ddewis eich cyflymder a chyfeiriad cychwynnol daliwch eich bys ar y llygoden a llusgo'r roced i'r cyfeiriad cywir.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Tyrchod
Cliciwch ar y tyrchod daear a chasglu pwyntiau cyn i'r amser ddod i ben!
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Troellwr Rhif
Dyma droellwr rhif.
Cliciwch a llusgo ar yr olwyn rif yna’i gollwng i ddechrau troi. Os ydych chi yn llusgo’n gyflym fe fydd yr olwyn yn troelli’n gynt.
Defnyddiwch y teclyn ar ochr dde’r troellwr i newid nifer y rhifau ar yr olwyn.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Rhes Pedwar
Cliciwch ar y bwrdd bob yn ail, gan ollwng un o'r darnau yn ei le. Mae'n rhaid cael pedwar mewn llinell syth, i unrhyw gyfeiriad, i ennill!
Dewisiwch chwarae yn erbyn ffrind neu yn erbyn y cyfrifiadur (hawdd, canolig neu anodd).
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Sudoku
Rhowch rif ym mhob sgwâr gwag. Ni ddylech gael mwy nag un o bob rhif ym mhob rhes, golofn nac adran. Os yw'r sgwâr yn troi'n goch mae'n anghywir.
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Tic Tac To
Cymerwch eich tro i glicio ar y sgwariau gan osod 'X' neu 'O'.
Mae'r cyntaf i gael pedwar mewn rhes yn ennill!
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Windows
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Windows
Lawrlwytho fersiwn Gymraeg Mac
Lawrlwytho fersiwn Saesneg Mac
Chwiliadur
Gwnewch eich chwileiriau eich hun i'w defnyddio yn y dosbarth trwy roi rhestr o eiriau yn y blwch priodol neu lawrlwytho ffeil, yn Gymraeg neu'n Saesneg.
Cliciwch yma i ddechrau
